Post Header
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd rhan gyntaf ein nodweddion blocio a rhoi mudydd newydd ar gael yn y dyddiau nesaf: y gallu i rwystro defnyddyddion wedi mewngofnodi penodol rhag gwneud sylwadau ar eich gwaith, ac ateb eich sylwadau.
Blocio a Mudo Cwrs Gloywi
Byddwn yn gweithredu dwy set o nodweddion i helpu defnyddwyr i reoli eu profiad ac amddiffyn rhag aflonyddwch heb ei gwneud hi'n anoddach creu a rhyngweithio â chynnwys ar Archive of Our Own – AO3 (Archif Ein Hun):
- Bydd Blocio, yn atal defnyddwyr penodol rhag rhyngweithio â chi.
- Bydd Mudo, yn eithrio cynnwys gan ddefnyddwyr penodol o'ch profiad personol ar Ao3.
Bydd y nodweddion hyn yn cael eu gweithredu'n raddol, gan y byddai'n ymgymeriad enfawr i'w gweithredu i gyd i'n nodweddion niferus yn rhyng-gysylltiedig ar unwaith.
Blocio Rhan 1: Sylwadau
Bydd y datganiad cyntaf hwn yn canolbwyntio ar rwystro sylwadau gan ddefnyddwyr sydd wedi mewngofnodi . Pan fyddwch chi'n blocio defnyddiwr, ni fyddant yn gallu gwneud sylwadau ar eich gwaith, neu ateb eich sylwadau ar bostiadau newyddion neu weithiau eraill. Ni fyddant yn gallu golygu sylwadau neu atebion blaenorol i chi.
Bydd y bloc yn aros, hyd yn oed os bydd y defnydydd sydd wedi'i rwystro yn newid ei enw.
Gallwch flocio defnyddydd trwy wasgu'r botwm "Block" (Blocio) ar eu proffil, penbwrdd, neu sylwadau. Gall dyddyddion wedi'u blocio o'r blaen gael eu dadflocio o'r fan hon hefyd.
Gallwch flocio ddefnyddydd trwy nodi ei enw ar y dudalen dyddyddion sydd wedi'u blocio, trwy ddilyn y ddolen "Blocked Users" ( dyddyddion sydd wedi'u blocio) ar eich tudalen dewisiadau.
Mae'r dudalen dyddyddion sydd wedi'u blocio yn rhestru pob ddefnyddydd rydych chi wedi'u blocio. Ni all defnydion eraill weld pwy rydych chi wedi'i blocio. Dim ond chi a gweinyddwyr gwefan gyda lefelau mynediad penodol fydd yn gallu gweld eich rhestr.
Os ydych yn amau bod rhywun rydych wedi'i rwystro yn dal i wneud sylw ar eich gwaith, neu ymateb i'ch sylwadau yn rhywle arall ar Ao3, cysylltwch â'r tîm polisi a chamdriniaeth.
Nodi os byddwch yn blocio ddefnyddydd sy rydych chi wedi cyd-greu gwaith, gall y defnyddydd hyn barhau i wneud sylwadau ar weithiau a grëwyd ar y cyd. Fodd bynnag, ni all ymateb i'ch sylwadau.
Mudo: Diweddariad
Rydym yn gweithio ar ryngwyneb i fudo defnyddyddion sydd wedi mewngofnodi, ond yn y cyfamser gallwch fudo defnyddyddion, gwaith, cyfres, neu waith allanol trwy creu thema wefan a defnyddio'r CSS canlynol:
-
.user-000 { display: none !important; }
i guddio pob gwaith gan ddefnyddydd, ac hefyd sylwadau wedi mewngofnodi ganddynt ar waith neu bost newyddion. Disodlwch000
gyda'r rhif adnabod y defnyddydd rydych chi eisiau cuddio. Mae rhif adnabod defnyddydd yn gyfres o rifau. Mae ar broffil y defnyddydd yn yr adran "My user ID is". Nid yw'r rhif yn newid os yw'r defnyddydd yn newid eu henw. -
.work-000 { display: none !important; }
i guddio gwaith penodol rhag rhestrau gwaith a thudalnod, a chanlyniadau chwilio. Disodlwch000
gyda'r rhif adnabod y gwaith rydych chi eisiau cuddio. Mae rhif adnabod yn gyfres o rifau. Gellir e ganfod yn URL y gwaith, yn syth ar ôl/works/
, e.e.https://archiveofourown.org/works/000/chapters/123
. -
.series-000 { display: none !important; }
i guddio cyfres benodol rhag rhestrau tudalnoden, chanlyniadau chwilio, a thudalennau cyfres defnyddyddion. Disodlwch000
Disodlwch gyda'r rhif adnabod y gyfres rydych chi eisiau cuddio. Mae rhif adnabod yn gyfres o rifau. Gellir e ganfod yn URL y gyfres, yn syth ar ôl/series/
, e.e.https://archiveofourown.org/series/000
. -
.external-work-000 { display: none !important; }
i guddio gwaith allanol penodol rhag rhestrau tudalnod, a chanlyniadau chwilio. Disodlwch000
Disodlwch gyda'r rhif adnabod y gwaith allanol rydych chi eisiau cuddio. (Nodi y gall fod sawl copi o waith allanol penodol, pob un ag ID gwahanol.) Mae rhif adnabod yn gyfres o rifau. Gellir e ganfod yn URL y gwaith allanol, yn syth ar ôl/external_work/
, e.e.https://archiveofourown.org/external_work/000
.
I guddio mwy nag un eitem, gwahanwch y dewisiadau gydag atalnod: .work-000, .work-149319, .user-000 { display: none !important; }
Opsiynau Eraill
Yn ychwanegol at y nodweddion blocio a mudo sydd i ddod, mae rhai moddion o reoli eich profiad ar Ao3.
Ar ein Holiadur Cyffredin Offer Porwr Answyddogol yw rhai sgriptiau trydydd parti sy'n hidlo cynnwys digroeso, a dyma rai opsiynau adeiledig i reoli nodweddion amrywiol:
- Anrhegion: Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau i ddewis derbyn e-byst hysbysu anrhegion, neu i reoli a all defnyddwyr eraill roi anrhegion i chi. Hefyd gallwch wrthod anrhegion a rhoddwyd i chi.
- Sylwadau: Pan fyddwch chi'n postio gwaith gallwch ddewis pwy all roi sylwadau: pawb, defnyddyddion sydd wedi mewngofnodi, neu neb o gwbl. Gallwch hefyd gymedroli sylwadau a rewi trywyddau ar eich gwaith. Hefyd, gallwch gallwch reoli'r mathau o hysbysiadau sylwadau a gewch ar eich tudalen dewisiadau. Rydyn ni'n gweithio ar fwy o opsiynau fel hyn bob amser, felly edrychwch yma'n aml -- rydym yn cyhoeddi'r rhan fwyaf o newidiadau mawr yn Newyddion Ao3 cyn iddynt gael eu rhyddhau. Gallwch ddilyn @AO3_Status ar Twitter neu ao3org ar Tumblri gael y wybodaeth ddiweddaraf.